Mae Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad hwn ynghylch cyllid celfyddydau nad yw'n gyhoeddus. Mae'r ymateb hwn yn seiliedig ar ein profiad diweddar. Nid yw'n cynrychioli arolwg cyfundrefnol o gyllid celfyddydau y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae'r rhan fwyaf sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydau a diwylliant yn gwneud hynny yn eu cymunedau eu hunain. Mae tua 4,000 o grwpiau celfyddydau, crefftau a threftadaeth amatur ar draws Cymru, gyda thua 650,000 o bobl yn cymryd rhan yn rheolaidd yn y grwpiau hyn (ffigyrau Llywodraeth Cymru). Mae'r gweithgareddau creadigol hyn, sy'n hanfodol ar gyfer llesiant ac ansawdd bywyd y bobl a'r cymunedau, yn bennaf yn hunangynhaliol ac yn derbyn dim ond ychydig iawn o gyllid cyhoeddus uniongyrchol.

Mae'r gallu i gynyddu llawer ar incwm, buddsoddiad ac - yn bennaf - dyngarwch, mewn sector sy'n dibynnu ar wirfoddolwyr a dim ond ychydig o gyllid, felly yn weddol isel.

Er enghraifft, model cyffredin ymysg grwpiau celfyddydau perfformio gwirfoddol sy'n derbyn dim arian cyhoeddus uniongyrchol, ydy tâl aelodaeth, gydag incwm o berfformiadau/gwerthiant tocynnau wedi'i ychwanegu ato. Mae hyn yn talu ar gyfer llogi'r lleoliad a chostau rhedeg, a thalu am artist proffesiynol o bryd i'w gilydd (er enghraifft, arweinwyr grwpiau) ac yn cynnal nifer o grwpiau celfyddydau gwirfoddol.

Ond, mae grwpiau o'r fath yn dibynnu ar leoliadau, cyfleusterau, rhwydweithiau a chefnogaeth lleol: isadeiledd sy'n cefnogi diwylliant lleol. A dyma pryd fydd grwpiau yn teimlo ergyd lleihad mewn cyllid cyhoeddus.

Mae grwpiau celfyddydol wedi bod yn addasu i gyllid cyhoeddus sy'n lleihau ers peth amser. Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Y Modd y mae Awdurdodau Lleol yn Ariannu Gwasanaethau'r Trydydd Sector (Ionawr 2017) yn datgelu mai 'Diwylliant a Gwasanaethau Cysylltiedig' ydy'r unig faes o wariant Awdurdod Lleol Cymru sydd wedi lleihau yn nhermau go iawn a thermau arian rhwng 2001-02 a 2013-14 (tud. 13): lleihad o 35.5% mewn termau go iawn.

Mae'r Celfyddydau Gwirfoddol wedi ceisio cefnogi'r sector gwirfoddol ac amatur er mwyn cynyddu amrywiaeth ei ffynonellau cyllid. Mae gennym ni amryw o gyfarwyddiadau gwybodaeth am ddim, gan gynnwys 'Sut i ysgrifennu cais llwyddiannus am gyllid', 'Gwneud cais i gronfeydd ymddiriedolaeth', 'Cymorth Rhodd', 'Ariannu torfol ar gyfer grwpiau celfyddydau a chrefftau gwirfoddol', 'Menter gymdeithasol', 'Ymddiriedolwyr a chodi arian' a 'Codi arian yn lleol'. Rydym ni'n aml yn rhannu gwybodaeth am nifer o ffynonellau a mecanweithiau cyllid trwy ein cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein cylchlythyr sydd ar gael ledled Prydain.

Mae Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn clywed cymaint am yr angen am grantiau bach gan y grwpiau rydym ni'n cydweithio â nhw. Gall y rhain fod gan noddwyr artistiaid penodol neu gyffredinol; o ffynonellau cyhoeddus neu ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol. Mae Arian i Bawb yn parhau i fod yn noddwr pwysig o weithgareddau diwylliannol lleol, yn ogystal â rhaglen grantiau bach Cyngor Celfyddydau Cymru, ond mae angen hefyd am grantiau bach iawn. Yn ddiweddar, bu i'r Celfyddydau Gwirfoddol redeg prosiect, Sgyrsiau Agored, er mwyn gwella ei ddealltwriaeth o weithgareddau creadigol gyda chymunedau a diwylliannau pobl Groenddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol. Un o'r darganfyddiadau oedd angen am 'grantiau bach iawn' gyda phrosesau ymgeisio haws, er enghraifft, caniatáu i bobl ymgeisio trwy fideo. Mae hyn wedi deillio o brofiad Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn gweinyddu grantiau bach iawn (rhwng £100 a £250) er mwyn galluogi pobl i gymryd rhan yn Wythnos y Celfyddydau Gwirfoddol, er mwyn talu am gostau deunydd, llogi lleoliad a gwaith hyrwyddo. Mae dathliad y Gwanwyn o greadigedd ymysg yr henoed yn cynnig model tebyg. Gall ychydig o gynnydd mewn buddsoddiad yn y maes hwn gynhyrchu canlyniad sylweddol a chyflwyno nifer fawr o bobl sy'n cymryd rhan at fanteision gweithgareddau diwylliannol creadigol.

Mae'r sector treftadaeth yng Nghymru wedi manteisio o'r rhaglen Catalydd Cymru penodol, sy'n darparu sgiliau codi arian i bawb sy'n gweithio yn y sector treftadaeth, gaiff ei darparu gan WCVA.

O ran buddsoddiad, mae Celfyddydau Gwirfoddol Cymru wedi bod yn edrych ar y posibilrwydd o ymddangosiad sy'n seiliedig ar gelfyddydau o Bond Llesiant Cymru, math o fuddsoddiad cymdeithasol sy'n defnyddio cyllid cyhoeddus, yn hytrach na'r cyllid preifat gaiff ei ddefnyddio gan Fondiau Effaith Gymdeithasol eraill. Rydym ni'n credu bod posibilrwydd sylweddol i fentrau sy'n seiliedig ar gelfyddydau drwy ddefnyddio arian ad- daladwy, yn arbennig ym maes rhaglenni celfyddydau ac iechyd.

Gwirfoddoli

Yr adnodd ychwanegol, ar draws yr holl fudiadau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, wrth gwrs ydy'r cyfraniad hanfodol tuag at waith gwirfoddol.

Mae Celfyddydau Gwirfoddol Cymru wedi bod yn edrych ar rôl gwaith gwirfoddol yn y celfyddydau. Dydyn ni ddim yn ymwybodol o drosolwg ystadegol o waith gwirfoddol yn y celfyddydau yng Nghymru, ond mae'r canlynol yn cynrychioli dangosydd cychwynnol o'r raddfa a chyfraniad gwirfoddolwyr i fudiadau celfyddydau yng Nghymru, yr ydym ni'n credu ei fod yn debygol o fod yn sylweddol:

        Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn amcan bod oddeutu 938,000 o wirfoddolwyr mewn mudiadau yng Nghymru (Adnodd Ystadegol y Trydydd Sector 2016).

        Mae hyn yn arwain at amcan bod gwirfoddolwyr yn rhoi 145 miliwn awr o'u hamser yn wirfoddol yng Nghymru bob blwyddyn, sy'n cyfateb i werth ariannol o £1.7 biliwn: sy'n cyfateb i 3.1% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth Cymru (ibid).

        Mae tua 10% o'r 33,000 o fudiadau trydydd sector yng Nghymru yn gweithio ym maes y celfyddydau, diwylliant ac etifeddiaeth, a 1,915 (22%) o'r elusennau cofrestredig yng Nghymru yn cynnwys y diben elusennol o hyrwyddo celfyddydau, diwylliannau, treftadaeth a gwyddoniaeth (ibid).

        Yn 2015/16, roedd 1,353 o wirfoddolwyr o fewn y 67 sefydliad sy'n rhan o Bortffolio Celfyddydol Cymru (ffigyrau Cyngor Celfyddydau Cymru).

        Cafodd 670 o gyfleoedd Celfyddydau/Diwylliant a Threftadaeth eu hysbysebu ar wefan Gwirfoddoli Cymru rhwng 1 Gorffennaf 2016 a 1 Gorffennaf 2017.

Mae gwahanol dueddiadau gwirfoddoli yn dod i'r golwg, er enghraifft, gwirfoddoli ar-lein neu ficro-wirfoddoli (er enghraifft, archifo casgliadau etifeddiaeth ar-lein), ac mae lleoliadau diwylliannol â mwy a mwy o ran mewn cynlluniau bancio amser (er enghraifft, menter Sherman 5, a Get the Chance, sy'n gwobrwyo ymatebion beirniadol ar gelfyddydau a diwylliant gyda chredyd amser).